What to do on a very wet and windy Saturday morning in Caernarfon??

Let's go Team Building... Let's Go Karting!

Team building indeed...

Team My Leather Manbag quickly became Team Dog Eat Dog, as we all (well, most of us) overtook, undertook, crashed and banged into each other, with numb fingers (from gripping the steering wheel) fighting for the number one spot.

I say ‘most of us'.... as Dad was in Sunday driving mode. I’m surprised he didn’t stop for a pint half way. But he wasn’t at all embarassed that all four of his daughters and his grandson were overtaking him at each lap. Go Dad!

So there we go- fun was had, and lessons were learnt; namely that I got my competitive streak from my mum!

I won by the way...but it’s not about the winning is it? It’s about the taking part. (Yeah, whatever...I WON!!!!!!!)

Happy Easter everyone. Hope you have a great weekend.

More soon.

Awel (& Robert, but I do believe he’s still on his last lap)

Beth i'w wneud ar fore Sadwrn gwlyb a gwyntog yng Nghaernarfon ??

Go Kartio! Adeiladu Tîm !

Adeiladu tîm yn wir ...

Cyn pen dim, roedd Tîm Leather Manbag wedi troi’n Tîm Pawb Dros ei Hun, wrth i bob un ohonom (wel bron pob un ohonom ) ymladd ein ffordd gyda bysedd rhynllud am y brig!

Dwi’n dweud ' bron pob un ohonom' - Roedd Dad yn gyrru fel petai ganddo drwy dydd i gyrraedd y fflag olaf a’i fod o am weld yr olygfa yn iawn wrth fynd. Rwy'n synnu nad oedd wedi stopio am beint hanner ffordd rownd. A doedd na ddim math o embaras fod ei bedair merch a'i ŵyr yn ei oddiweddyd ar bob lap.

Felly dyna ni go- cawsom hwyl, a deallais reit sydyn fod yr elfen gystadleuol yn fy nghymeriad wedi dod gan mam ;)

Enillais gyda llaw ... ond nid y cystadlu sy’n bwysig naci, ond y cymryd rhan ;)

Pasg hapus bawb. Gobeithio cewch benwythnos gwych.

Mwy toc,

Awel (& Robert, sydd dal ar y trac…ar ei lap olaf dwi’n meddwl)